Weinyddwr Cangen

Details of the offer

Mae gan ein cleient gyfle i Weinyddwr Cangen ymuno â'r tîm!
Rhif Cyfeirnod: BA3 Lleoliad: Caerdydd, CF10 3AT (Mae gweithio o swyddfa'r gangen ar sail wirfoddol ar hyn o bryd) Cyflog: £27,018 y flwyddyn (£33,773 y flwyddyn pro rata) Oriau: 28 yr wythnos (35 yr wythnos pro rata) Math o Swydd: Parhaol, Rhan Amser (0.8) Dyddiad cau: 27 Tachwedd 10.00 am   Amdanom Ni: Mae ein cleient yn cynrychioli dros 120,000 o academyddion, darlithwyr, hyfforddwyr/cyfarwyddwyr, ymchwilwyr, rheolwyr, gweinyddwyr, staff cyfrifiadurol, llyfrgellwyr, ac ôl-raddedigion mewn prifysgolion, colegau, carchardai, addysg oedolion a sefydliadau hyfforddi ledled y DU.
Mae gennym hefyd aelodau yn y sector preifat, er enghraifft mewn asiantaethau hyfforddi preifat ac ysgolion iaith, yn ogystal ag aelodau sy'n gweithio'n llawrydd.
Mae myfyrwyr sy'n hyfforddi i addysgu ym maes addysg ôl-ysgol hefyd yn perthyn i UCU.
Gweinyddwr Cangen – Y Rôl: Mae Swyddfa Cymru yn chwilio am Weinyddwr i sicrhau ei fod yn cael ei redeg yn effeithiol.
Yn y rôl ddiddorol hon byddwch yn cael eich gorchwylio yn lleol ar lefel cangen a Swyddog Cymru fydd eich rheolwr llinell cyffredinol.
Gweinyddwr Cangen – Cyfrifoldebau Allweddol: - Gweithredu fel y cyswllt cyntaf i aelodau'r gangen neu ddarpar aelodau - Helpu gyda phroses recriwtio aelodaeth y gangen - Trefnu cyfarfodydd a chymryd cofnodion - Cadw gwefan y gangen yn gyfredol   Gweinyddwr Cangen – Chi: Bydd yr ymgeisydd delfrydol wedi'i addysgu hyd at lefel TGAU neu bydd yn meddu ar brofiad cyfatebol (gan gynnwys Mathemateg a Saesneg) - Profiad o weithio mewn amgylchedd gwaith tebyg a/neu ddealltwriaeth o weithio i undeb llafur neu sefydliad nid er elw arall - Sgiliau rhyngbersonol cryf - Sgiliau TG rhagorol - Profiad gweinyddol cadarn - Y gallu i gynllunio a threfnu eich llwyth gwaith eich hun   Gweinyddwr Cangen – Buddiannau: - Hawl hael i 35 diwrnod o wyliau'r flwyddyn yn ogystal ag wyth gwyl banc, ac wyth diwrnod cau gyda hawl pro rata ar gyfer staff rhan amser - Trefniadau absenoldeb anabledd - Trefniadau absenoldeb arbennig - Ystod o bolisïau a gweithdrefnau sy'n addas i bobl â theuluoedd gyda chynlluniau Absenoldeb Mamolaeth, Absenoldeb Mabwysiadu, Absenoldeb Tadolaeth ac Absenoldeb Rhiant a Rennir ychwanegol - Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n rhoi mynediad i wasanaeth cwnsela cyfrinachol 24 awr - Mynediad i gyngor ac ymyriadau wyneb yn wyneb gan Uwch Ffisiotherapydd Siartredig drwy wasanaeth llwyddiannus y Llinell Gymorth Ffisiotherapi - Asesiad Gofal Iechyd - Cynllun oriau hyblyg ar gael drwy gytundeb lle gall cyflogeion amrywio eu hamseroedd dechrau a gorffen neu egwylion cinio o fewn y ffiniau a nodir yn y polisi Cydbwysedd Bywyd a Gwaith - Fel rhan o'r contract, caiff pob cyflogai ei gofrestru â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion ac ar hyn o bryd, mae cyfraniad y cyflogai yn cyfateb i oddeutu 6.1% o'r cyflog a chyfraniad y cyflogwr yn cyfateb i oddeutu 14.5% o'r cyflog - Cymorth ariannol gyda gofal plant - Benthyciadau tocyn tymor di-log i dalu costau tocyn tymor ail ddosbarth rhwng y cartref a'r swyddfa - Bydd UCU yn helpu gyda chost prawf llygaid a chost sbectol sylfaenol os oes ei hangen i ddefnyddio cyfarpar sgrin arddangos  - Mynediad at dros 300 o fodiwlau e-ddysgu drwy Ystafell Hyfforddiant ar-lein UCU   Proses Gwneud Cais Mae UCU yn gyflogwr cyfle cyfartal ac yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys â chymwysterau addas heb ystyried rhyw, hil, anabledd, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, crefydd neu gred, statws priodasol, neu feichiogrwydd a mamolaeth.
Cwblhewch y data amrywiaeth a chynhwysiant wrth wneud cais, hyd yn oed os nad ydych wedi cael eich dewis ar gyfer cyfweliad.
Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn denu amrywiaeth eang o ymgeiswyr.
I wneud cais ar gyfer y cyfle cyffrous hwn i fod yn Weinyddwr Cangen , cliciwch ar 'Apply' nawr.
Dyddiad Cau : 27 Tachwedd am 10 am.
Dyddiad Cyfweld: 11 Rhagfy


Nominal Salary: To be agreed

Source: Talent_Dynamic-Ppc

Job Function:

Requirements

Waiter

***Seasonal Job Opportunity at The Ivy***Hidden behind the signature harlequin stained-glass windows lies an iconic restaurant with a history of over 100 yea...


The Ivy Collection - Cardiff

Published 16 days ago

Quality Assurance Technician

A fantastic opportunity for a Quality Assurance Technician, based in Cardiff, to ensure production standards are met and maintained for products before they ...


Vibe Recruit Limited - Cardiff

Published 16 days ago

Senior Test Analyst

Job Title: Senior Test Analyst Location: Cardiff (Hybrid - 3 days in-office, 2 at home) Benefits: Up to 30% bonus, PMI, Critical Illness We're seeking a deta...


Identify Solutions - Cardiff

Published 17 days ago

Quality Inspector (Full Industry Training)

Quality Inspector (Full Industry Training) Please read the following job description thoroughly to ensure you are the right fit for this role before applying...


Rise Technical Recruitment Limited - Cardiff

Published 16 days ago

Built at: 2024-11-21T15:00:54.379Z