Swyddog Gweithredol Marchnata - Marketing Executive Mae Newable yn chwilio am Swyddog Gweithredol Marchnata hynod drefnus a chreadigol gyda chefndir marchnata busnes-i-fusnes cryf a sgiliau rheoli prosiectau eithriadol i farchnata rhaglen cefnogi busnes flaenllaw ledled Cymru.
Os gwnaethoch ateb y cwestiynau canlynol yn gadarnhaol, hoffem glywed gennych:
Oes gennych chi brofiad o redeg ymgyrchoedd marchnata sy'n perfformio'n dda ar gyfer rhaglenni a digwyddiadau cymorth busnes? Oes gennych chi feddylfryd dadansoddol a datrys problemau ac ydych chi'n mwynhau gweithle cyflym, lle gallwch chi berchenogi prosiectau o'r dechrau i'r diwedd? Allwch chi greu negeseuon e-bost marchnata deniadol, hysbysebion a phostiadau ar y cyfryngau cymdeithasol trawiadol? Ydych chi'n gwybod sut i farchnata ar draws sawl sianel a llwyfan? Oes gennych chi sgiliau ysgrifennu copi a phrawf darllen rhagorol? Mae rôl y Swyddog Gweithredol Marchnata yn rhan o'r tîm Digwyddiadau a Marchnata Byw Newable, sy'n rhan o Newable Advice, ac mae'n adrodd wrth y Rheolwr Marchnata Digwyddiadau.
Bydd y rôl yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi'r gwaith o hyrwyddo ein rhaglenni cymorth busnes a ddarparwn ar ran Busnes Cymru, gan helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach i sicrhau ein bod ni'n cefnogi cymaint o fusnesau â phosibl ar draws pob cwr o Gymru.
Bydd angen i chi ddangos agwedd ragweithiol, 'medraf' a meddu ar feddylfryd dadansoddol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau. Bydd eich dyletswyddau'n cynnwys:
Cynllunio, cyllidebu, darparu a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata ar-lein ac all-lein yn strategol. Trosi brîff y cleient yn ymgyrch farchnata gynhwysfawr ac effeithiol. Sicrhau bod yr holl weithgareddau marchnata yn bodloni'r gofynion brand a naws a bennir gan ein cyllidwyr. Defnyddio tactegau arloesol a sianeli cyfathrebu lluosog i ysgogi'r gwaith o recriwtio rhaglenni. Dylunio asedau ymgyrchu o ansawdd uchel i gefnogi'r gwaith o hyrwyddo'r rhaglen. Cynhyrchu deunyddiau o ansawdd uchel i arddangos ein harbenigedd a llwyddiannau cleientiaid. Meddu ar ddealltwriaeth o bwysigrwydd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn marchnata. Olrhain a dadansoddi canlyniadau'r ymgyrchoedd, gan awgrymu newidiadau i wella perfformiad. Defnyddio ein system awtomeiddio CRM a marchnata yn effeithiol. Cynllunio, dylunio a rheoli ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol a PPC. Rhaid i'r ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl hon fod wedi'i leoli yng Nghymru a bydd disgwyl iddo weithio o bell, er y gellir trafod trefniadau gweithio hybrid.
Profiad / sgiliau y mae eu hangen ar gyfer y rôl:
O leiaf 3 blynedd o brofiad marchnata a chyfathrebu busnes-i-fusnes. O leiaf 2 flynedd o brofiad o ddefnyddio systemau awtomeiddio marchnata a CRM. Profiad uwch o farchnata e-bost a segmentu cynulleidfa. Sgiliau ysgrifennu copi a phrawf ddarllen rhagorol. Profiad o olrhain a chynhyrchu adroddiadau o ganlyniadau'r ymgyrch. Cyfathrebu ysgrifenedig a llafar ardderchog. Mae profiad o weithio gyda busnesau bach a chanolig, dealltwriaeth o ecosystem cymorth busnes Cymru, profiad gyda Pardot, Salesforce a Canva, a sgiliau Photoshop/InDesign uwch yn ddymunol.
Mae'r gallu i ddarllen, ysgrifennu a/neu siarad Cymraeg yn fantais.
Rhinweddau:
Hunan-gymhellol a rhagweithiol gyda'r gallu i berchenogi prosiectau. Meddylfryd dadansoddol gydag obsesiwn am sylw i fanylion. Yn drefnus iawn gyda gallu profedig i reoli amser a blaenoriaethau'n effeithiol. Creadigol gyda llygad am ddylunio deniadol. Yn hyderus wrth feithrin perthynas effeithiol gydag amrywiaeth o randdeiliaid. Chwaraewr tîm addasol sy'n cyfrannu'n weithredol at ddiwylliant tîm cadarnhaol. Cadarn a gwydn – bydd gennych y gallu i ymdopi a chyflawni dan bwysau. Mae Newable wedi ymrwymo i ryddhau potensial rhyfeddol busnesau bach a chanolig yn y DU. Ein cenhadaeth yw helpu busnesau i ddechrau, cynnal a thyfu trwy ein datrysiadau Cyngor, Arian a Gofod Gwaith Hyblyg.
Os yw hyn yn swnio'n gyffrous, cyflwynwch eich cais heddiw!
#J-18808-Ljbffr