Gweithiwr Allgymorth Ieuenctid A Myfyrwyr

Details of the offer

Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos gyda nosweithiau a phenwythnosau rheolaiddDyddiad Cyfweliad: To be confirmedRydym yn awyddus i recriwtio Cristion ymroddedig ac angerddol i ddatblygu a chyflwyno Gweinidogaeth gydag Ieuenctid a Myfyrwyr - maes cenhadaeth allweddol i Fyddin yr Iachawdwriaeth.Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio fel ymarferydd yn y cyd-destun lleol, gan ymgysylltu â phobl ifanc drwy fentrau i ddiwallu anghenion a sicrhau canlyniadau cadarnhaol, yn ogystal â bod yn rhan o dîm ar draws y Cynefin Gorllewinol* oddi mewn i Adran Cymru, lle byddwch yn meithrin perthnasau cydweithredol gydag arweinwyr Rhanbarthol a lleol i annog a manteisio ar weinidogaeth bresennol Ieuenctid a Myfyrwyr a chyngori a dylanwadu ar gyfleoedd cenhadaeth newydd.
*Y Cynefin Gorllewinol yw Rhanbarth De a Chanolbarth Gorllewin Cymru sy'n cynnwys mynegiannau Byddin yr Iachawdwriaeth yn Aberystwyth, Rhydaman, Caerfyrddin, Gorseinon, Llanelli, Treforys, Castell-nedd, Abertawe a Dinbych-y-pysgod.Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn mynd i'r afael ag anghenion corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol, a bydd y rôl hon yn ceisio sicrhau cyfranogiad llawn gan Ieuenctid a Myfyrwyr ym mywyd Byddin yr Iachawdwriaeth gyda'r nod o adeiladu cymunedau ffydd.Cyfrifoldebau Allweddol: Gweithio gyda mynegiannau eraill Byddin yr Iachawdwriaeth yn y Cynefin Gorllewinol* i arwain datblygiad gwaith allgymorth ieuenctid a myfyrwyr lleol gyda'r nod o gynyddu'n sylweddol y ddarpariaeth o waith ieuenctid a myfyrwyr yn y gymuned.Dylunio a chyflwyno ystod o weithgareddau allgymorth cymunedol, ymgysylltiad a disgyblaeth ieuenctid a myfyrwyr arloesol.Gweithio'n gydweithredol gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, gwasanaethau statudol ieuenctid a gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol eraill, megis rhwydweithiau eciwmenaidd.Cyfathrebu gyda a chydlynu partneru timau arweinyddiaeth ac adrannol corffluoedd ynglyn â datblygiad y prosiect gan gynnwys recriwtio a chefnogi pobl leol i ddod yn wirfoddolwyr ac arweinwyr gweithredol yn y prosiect.
Bydd gan yr ymgeisydd (ymgeiswyr) llwyddiannus y canlynol:- Cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn gwaith ieuenctid** neu'n gweithio tuag ato a/neu brofiad da o weithio gydag ieuenctid ym meysydd disgyblaeth ac arweinyddiaeth.
[Bydd ymgeiswyr â sgiliau trosglwyddadwy/perthnasol yn cael eu hystyried]Profiad o fentora a chefnogi pobl ifanc ac arweinwyr ieuenctidProfiad ymarferol o ddatblygu prosiectau allgymorth ieuenctid cymunedol a/neu fyfyrwyr, e.e.
clybiau ieuenctid, rhaglenni mentora mewn ysgolion, caplaniaeth myfyrwyr a datblygu a harneisio cyfleoedd a pherthnasoedd partneriaeth allanol.Ymwybyddiaeth o a'r gallu i weithio o fewn polisïau Diogelu ac Iechyd a Diogelwch Mae gan y rôl hon ofyniad galwedigaethol sef bod yn rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn Gristion ymroddedig ac ymarferol a chydymdeimlo ag athrawiaethau a bod yn gefnogol i amcanion a nodau Byddin yr Iachawdwriaeth.Er mwyn cwblhau eich cais, lawrlwythwch a darllenwch y proffil swydd ac unrhyw atodiadau eraill.Yn y proffil swydd fe welwch y meini prawf sy'n ofynnol ar gyfer y rôl.
Gwnewch yn siwr eich bod yn eu trafod yn eich datganiad ategol gan fod hyn yn sail i'n rhestr fer.Mae penodiad yn amodol ar eirdaon boddhaol, prawf o'r hawl i weithio yn y DU a gwiriad boddhaol DBS Uwch gyda Rhestr Wahardd o'r Gweithlu Plant.Rydym yn cadw'r hawl i gau'r hysbyseb hon yn gynharach os ydym o'r farn bod digon o geisiadau wedi eu derbyn.Sylwch y bydd unrhyw weithwyr Byddin yr Iachawdwriaeth sydd dan rybudd o ddiswyddo ac sy'n gwneud cais am y swydd hon yn cael ystyriaeth flaenoriaethol.Gan ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb yn y gweithle ac fel cyflogwr cynllun arweinwyr anabledd hyderus, rydym yn gwarantu cyfweld â phob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd wag hon.


Nominal Salary: To be agreed

Source: Talent_Ppc

Job Function:

Requirements

Tafarn Morlais, Llangennech

Could you run the Tafarn Morlais in Llangennech, near Llanelli as a self-employed licensee? The Tafarn Morlais is a great food led pub and consists of a cosy...


Marstons Plc - Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire

Published 11 days ago

Quality Assurance Information Systems Administrator

Job summary Applications are invited from enthusiastic, innovative, motivated and suitably qualified individuals for the post of a full time, Band 4 Quality ...


Hywel Dda University Health Board - Sir Gaerfyrddin / Carmarthenshire

Published 8 days ago

Swrk 580

South Lanarkshire Council is an ambitious, high performing organisation with a clear vision and programme of action which is designed to improve the lives an...


South Lanarkshire - Alba / Scotland

Published a month ago

Quality Assurance Manager

Quality Assurance Manager Technical - Taiko Acton Contract: Full Time Salary: £45,000 per annum Contracted Hours: Established in 1997 as the first manufactur...


Taiko - England

Published a month ago

Built at: 2024-12-11T22:58:25.564Z